Mesur o bellter mewn unedau imperial yn hafal i un-wythfed milltir yw ystaden (ll. 'ystadenni' neu 'ystadennau'; Saesneg: furlong).[1][2] Mae un ystaden yn gyfwerth a 660 troedfedd, 220 llath, 40 rhoden, neu ddeg cadwynfedd. Ar wahân i rai taleithiau yn yr UDA, derbynir yn rhyngwladol fod un Ystaden yn cyfateb i 201.168 metr. Yn fras, mae pump ystaden yn un cilometr - 1.00584 km i fod yn fanwl gywir.